Salmydd 34
34
SALM XXXIV.
9.8. Elliot. Mount Zion.
1Bendithiaf yr Arglwydd daionus,
Hyn beunydd yn felus a fydd;
2Y rhai gostyngedig a glywant,
3A’i enw fawrygant yn rhydd;
5Goleuodd efe eu hwynebau,
6O’m hofnau rh’odd finnau yn fwyn;
Y tlawd o’i gyfyngder a lefodd,
4A’r Arglwydd a glywodd ei gŵyn.
7Ei angel gastella mor ffyddlawn,
Dim niwed y cyfiawn nis ca’;
8-9O! profwch a gwelwch o galon
Ein Duw sydd mor dirion a da;
10Y llewod gorthrymus newynant,
Ond pawb a ymnerthant yn Nuw
Am eisieu daioni ni wyddant,
Mewn llawnder y byddant yn byw.
11Chwychwi, fy mhlant anwyl, gynghoraf,
Ac ichwi y dysgaf ofn Duw;
12Pa le mae y gŵr a gâr lwyddiant, —
Hir ddyddiau o fwyniant i fyw?
13-14Ymgadw rhag tafod twyllodrus,
Arferion drygionus, a gwna
Ddaioni ar lwybrau tangnefedd,
Cei felly dy ddiwedd yn dda.
15Mae llygaid ei Dduw ar y cyfiawn,
Gwrandawiad i’r uniawn a rydd;
16Ei wyneb yn gadarn a phybyr
Yn erbyn troseddwyr y sydd;
18Mae’n agos at galon ddrylliedig,
Yr ysbryd briwedig a ŵyr;
19,22A’r hwn gan y drwg oddiweddir
Wareda, nis lleddir yn llwyr.
Dewis Presennol:
Salmydd 34: SC1885
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.
Salmydd 34
34
SALM XXXIV.
9.8. Elliot. Mount Zion.
1Bendithiaf yr Arglwydd daionus,
Hyn beunydd yn felus a fydd;
2Y rhai gostyngedig a glywant,
3A’i enw fawrygant yn rhydd;
5Goleuodd efe eu hwynebau,
6O’m hofnau rh’odd finnau yn fwyn;
Y tlawd o’i gyfyngder a lefodd,
4A’r Arglwydd a glywodd ei gŵyn.
7Ei angel gastella mor ffyddlawn,
Dim niwed y cyfiawn nis ca’;
8-9O! profwch a gwelwch o galon
Ein Duw sydd mor dirion a da;
10Y llewod gorthrymus newynant,
Ond pawb a ymnerthant yn Nuw
Am eisieu daioni ni wyddant,
Mewn llawnder y byddant yn byw.
11Chwychwi, fy mhlant anwyl, gynghoraf,
Ac ichwi y dysgaf ofn Duw;
12Pa le mae y gŵr a gâr lwyddiant, —
Hir ddyddiau o fwyniant i fyw?
13-14Ymgadw rhag tafod twyllodrus,
Arferion drygionus, a gwna
Ddaioni ar lwybrau tangnefedd,
Cei felly dy ddiwedd yn dda.
15Mae llygaid ei Dduw ar y cyfiawn,
Gwrandawiad i’r uniawn a rydd;
16Ei wyneb yn gadarn a phybyr
Yn erbyn troseddwyr y sydd;
18Mae’n agos at galon ddrylliedig,
Yr ysbryd briwedig a ŵyr;
19,22A’r hwn gan y drwg oddiweddir
Wareda, nis lleddir yn llwyr.
Dewis Presennol:
:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.