Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmydd 33

33
SALM XXXIII.
10au. Freyburg. Coburg.
1Ymlawenhaed y cyfiawn yn ei Dduw,
Yn ngenau’r uniawn mawl mor weddus yw;
2Ag offer cerdd yn gywrain molwch Ef,
3Ar newydd gân soniarus fyddo’ch llef.
4-5Ei air sydd uniawn, ffyddlon yw ei waith,
O’i ’wyllys da llawn yw y ddaear faith;
6Yn y dechreuad crëodd bob rhyw nef,
A’u lluoedd oll trwy rym ei anadl Ef.
7Efe a gasgl yn bentwr ddyfroedd môr,
A’r maith ddyfnderau ddyry mewn ystôr;
8Yr Arglwydd, ofned yr holl ddaear gron,
Trigolion byd arswydant ger ei fron.
9Dywedodd, Bydded, — hyny fu’n y fan,
10A chynghor cenedl wna yn ffol a gwan;
11Cynghor yr Arglwydd saif er pob rhyw groes.
Meddyliau’i galon Ef o oes i oes.
12Y genedl a ddetholodd, gwyn ei byd;
13-14O’i drigfan gwel drigolion dae’r i gyd;
15Yr hwn a luniodd ac a farn bob dyn,
16-17Trwy lu a nerth o’i law ni ddianc un.
18Llygad yr Arglwydd ar ei eiddo sydd,
19I gadw’u henaid rhag yr angeu prudd;
Yn amser newyn cedwir hwynt yn fyw;
20-21Ymlawenhawn, ein porth a’n tarian yw.

Dewis Presennol:

Salmydd 33: SC1885

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda