Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmydd 28

28
SALM XXVIII.
8.7. D. Bavaria. Diniweidrwydd.
1Dduw fy nghraig mi waeddaf arnat,
Dywed wrthyf air o hedd,
Rhag i mi fod yn gyffelyb
I rai ânt i bwll y bedd;
2Clyw, O! Arglwydd, lais fy ymbil
Pan y gwaeddwyf tua’th dŷ,
Gan ddyrchafu ar led fy nwylaw
Tua’th gafell sanctaidd fry.
3Gyda’r dorf o annuwiolion
F’enaid yn y rhwyd na thyn,
Rai gwenieithus drwg eu calon,
4-5Telir iddynt hwy am hyn;
Gwaith dy ddwylaw nid ystyriant,
Nis dirmygant lawer mwy;
Ti, O! Dduw, wyt yn ystyried
Gwaith eu dwylaw gwaedlyd hwy.
6Bendigedig fyddo’r Arglwydd,
Fe wrandawodd ar fy llef;
7Yn ei nerth y llawenychaf,
Ar fy nghân clodforaf Ef;
9Boed dy fendith ar dy eiddo,
Cadw’th bobl o gyrhaedd drwg;
Portha’th braidd, a’r ŵyn sydd wirion,
* Yn dy freichiau’n dirion dwg.

Dewis Presennol:

Salmydd 28: SC1885

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda