Y Salmau 57:7-11
Y Salmau 57:7-11 BCND
Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw, y mae fy nghalon yn gadarn; fe ganaf a rhoi mawl. Deffro, fy enaid, deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr. Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd, oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau. Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

