Daeth holl lwythau Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, “Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni. Gynt, pan oedd Saul yn frenin arnom, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, ‘Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog Israel’.” Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â hwy yn Hebron gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel. Deng mlwydd ar hugain oed oedd Dafydd pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddeugain mlynedd. Yn Hebron teyrnasodd dros Jwda am saith mlynedd a chwe mis; yna yn Jerwsalem fe deyrnasodd dros Israel a Jwda gyfan am dair ar ddeg ar hugain o flynyddoedd.
Darllen 2 Samuel 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Samuel 5:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos