Hosea 2
2
1 Delw‐addoliaeth y bobl; 6 a barn Duw yn eu herbyn hwy: 14 y mae yn addo cymodi â hwynt.
1Dywedwch wrth eich brodyr, #2:1 Sef, Fy mhobl i.Ammi; ac wrth eich chwiorydd, #2:1 Sef, Yr hon a drugarhawyd wrthi.Rwhama. 2Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys #Esa 50:1nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei #Esec 16:25phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau; 3Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd #Esec 16:4y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched. 4Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb. 5Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, #ad. 8, 12 Jer 44:17y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.
6Am hynny wele, #Job 3:23; 19:8; Galar 3:7, 9mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau. 7A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon. 8Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a #2:8 Heb. gwin newydd.gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai #2:8 Neu, a weithiasant yn Baal.a ddarparasant hwy i Baal. 9Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a #2:9 Neu, goresgynnaf.dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi. 10A #Esec 16:37; 23:29mi a ddatguddiaf bellach ei #2:10 Neu, hysgelerder, neu, hynfydrwydd.brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i. 11Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio. 12A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, #ad. 5am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac #Salm 80:12, 13; Esa 5:5mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt. 13A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.
14Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. 15A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a #Jos 7:26; Esa 65:10dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel #Jer 2:2; Esec 16:22, 60yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. 16Y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y’m gelwi #2:16 Sef. Fy ngŵr.Issi, ac ni’m gelwi mwyach #2:16 Sef, Fy arglwydd.Baali. 17Canys #Exod 23:13; Jos 23:7; Salm 16:4; Sech 13:2bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. 18A’r dydd hwnnw y gwnaf #Job 5:23; Esa 11:6; Esec 34:25amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; #Salm 46:9; Esa 2:4; Esec 39:9; Sech 9:10a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. 19A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. 20A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a #Jer 31:33, 34thi a adnabyddi yr Arglwydd. 21A’r dydd hwnnw #Sech 8:12y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear; 22A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel. 23A #Jer 31:27; Sech 10:9mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac #Pen 1:10; Rhuf 9:26; 1 Pedr 2:10a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.
Dewis Presennol:
Hosea 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society

: