Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 4:6-10

Sechareia 4:6-10 BNET

Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy’n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e’n dod â’r garreg olaf i’w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae’n hyfryd! Mae’n hyfryd!’” Yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e’n gorffen y gwaith.” Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. “Pwy wnaeth ddirmygu’r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â’r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae’r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy’n gwylio popeth sy’n digwydd ar wyneb y ddaear.”