Sechareia 4:6-10
Sechareia 4:6-10 BWM
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr ARGLWYDD at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd ARGLWYDD y lluoedd. Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf drachefn, gan ddywedyd, Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a’i ddwylo ef a’i gorffen: a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hebryngodd atoch. Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny: llygaid yr ARGLWYDD ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.


