Dyrchafaf fy llygaid i’r nefoedd
A’r nefol fynyddoedd yn awr;
Oddi yno daw cymmorth a chryfder
A llewyrch mewn amser i’r llawr:
Fy nghymmorth, O Dduw fy nghyfiawnder,
Oddi wrthyt ar fyrder a ddaw;
Y nefoedd a’r ddaear, pan fynnodd,
Yn gyflawn a luniodd dy law.