Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 1 Corinthiaid 13:7

Hadau: Beth a Pham
4 Diwrnod
Hadau, maen nhw ym mhobman. Mae dy eiriau, dy arian, dy blant a hyd yn oed ti, dy hun, yn hedyn! Sut mae'r hadau hyn yn gweithio a pham ddylai fod o bwys i ni? Gawn ni weld beth sydd gan y Beibl i’w ddweud a darganfod sut y gall fod yn berthnasol i’n bywydau er mwyn dod â ni’n nes at Dduw a’i bwrpas ar ein cyfer.

Maddau i'r rheiny sy'n ein brifo
7 Diwrnod
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.

Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i Dadau
7 Diwrnod
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.