YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 1

1
Y Caniad Cyntaf
1Cân y caniadau, eiddo Solomon.
2Cusana fi â chusanau dy#1:2 Tebygol. Hebraeg, Y mae'n fy nghusanu â chusanau ei. wefusau,
oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,
3ac arogl dy bersawr yn hyfryd,
a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;
dyna pam y mae merched yn dy garu.
4Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;
cymer fi i'th ystafell, O frenin#1:4 Felly Syrieg. Hebraeg, cymerodd y brenin fi i'w ystafell..
Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,
a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;
mor briodol yw iddynt dy garu!
5O ferched Jerwsalem,
er fy mod yn dywyll fy lliw
fel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,
yr wyf yn brydferth.
6Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,
oherwydd i'r haul fy llosgi.
Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,
a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;
ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.
7Fy nghariad, dywed wrthyf
ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,
ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.
Pam y byddaf fel un yn crwydro#1:7 Felly Fersiynau. Hebraeg yn aneglur.
wrth ymyl praidd dy gyfeillion?
8O ti, y decaf o ferched,
os nad wyt yn gwybod,
yna dilyn lwybrau'r defaid,
a bugeilia dy fynnod
gerllaw pebyll y bugeiliaid.
9F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu
i feirch cerbydau Pharo.
10Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,
a'th wddf gan emau.
11Fe wnawn iti gadwynau aur
gydag addurniadau arian.
12Pan yw'r brenin ar ei wely,
y mae fy nard yn gwasgaru arogl.
13Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrr
yn gorffwys rhwng fy mronnau.
14Y mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd En-gedi.
15O mor brydferth wyt, f'anwylyd.
O mor brydferth,
a'th lygaid fel colomennod!
16Mor brydferth wyt, fy nghariad.
O mor ddymunol!
Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.
17Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷ
a'r ffynidwydd yw ei ddistiau.

Currently Selected:

Caniad Solomon 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy