YouVersion Logo
Search Icon

Josua 1

1
Duw'n Gorchymyn i Josua Oresgyn Canaan
1Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses, 2“Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel. 3Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses. 4Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Môr Mawr yn y gorllewin. 5Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat. 6Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid. 7Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei. 8Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu. 9Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”
Josua'n Rhoi Gorchmynion i'r Bobl
10Dywedodd Josua wrth swyddogion y bobl 11am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, “Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi.” 12Ac wrth Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse, dywedodd Josua, 13“Cofiwch beth a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, fod yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi diogelwch ichwi yma, ac yn rhoi'r wlad hon i chwi. 14Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo, 15nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen.” 16Dyma'u hateb i Josua: “Fe wnawn beth bynnag yr wyt yn ei orchymyn inni, a mynd i ble bynnag yr anfoni ni; 17ufuddhawn i ti ym mhopeth fel y gwnaethom i Moses, dim ond i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda thi fel y bu gyda Moses. 18Rhodder i farwolaeth bwy bynnag fydd yn anufuddhau i'th air ac yn gwrthod gwrando ar unrhyw beth a orchmynni. Yn unig bydd yn gryf a dewr.”

Currently Selected:

Josua 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy