Ioan 19:16-18 BCND
Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio.
Felly cymerasant Iesu. Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha). Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.
BCND: Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004