YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 10

10
Dameg Corlan y Defaid
1“Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall. 2Yr un sy'n mynd i mewn trwy'r drws yw bugail y defaid. 3Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan. 4Pan fydd wedi dod â'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef. 5Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid.” 6Dywedodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.
Iesu, y Bugail Da
7Felly dywedodd Iesu eto, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, myfi yw drws y defaid. 8Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy. 9Myfi yw'r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw'n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa. 10Ni ddaw'r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a'i gael yn ei holl gyflawnder. 11Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. 12Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl. 13Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid. 14Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i, 15yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. 16Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail. 17Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith. 18Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”
19Bu ymraniad eto ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn. 20Yr oedd llawer ohonynt yn dweud, “Y mae cythraul ynddo, y mae'n wallgof. Pam yr ydych yn gwrando arno?” 21Ond yr oedd eraill yn dweud, “Nid geiriau dyn â chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?”
Yr Iddewon yn Gwrthod Iesu
22Yna daeth amser dathlu gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf, 23ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon. 24Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, “Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen.” 25Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi. 26Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i. 27Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i. 28Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i. 29Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll,#10:29 Yn ôl darlleniad arall, Y mae fy Nhad, a'u rhoddodd hwy i mi, yn fwy na phawb. ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad. 30Myfi a'r Tad, un ydym.”
31Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef. 32Dywedodd Iesu wrthynt, “Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos p'run ohonynt yr ydych am fy llabyddio?” 33Atebodd yr Iddewon ef, “Nid am weithred dda yr ydym am dy labyddio, ond am gabledd, oherwydd dy fod ti, a thithau'n ddyn, yn dy wneud dy hun yn Dduw.” 34Atebodd Iesu hwythau, “Onid yw'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, ‘Fe ddywedais i, “Duwiau ydych” ’? 35Os galwodd ef y rhai hynny y daeth gair Duw atynt yn dduwiau—ac ni ellir diddymu'r Ysgrythur— 36sut yr ydych chwi yn dweud, ‘Yr wyt yn cablu’, oherwydd fy mod i, yr un y mae'r Tad wedi ei gysegru a'i anfon i'r byd, wedi dweud, ‘Mab Duw ydwyf’? 37Os nad wyf yn gwneud gweithredoedd fy Nhad, peidiwch â'm credu. 38Ond os wyf yn eu gwneud, credwch y gweithredoedd, hyd yn oed os na chredwch fi, er mwyn ichwi ganfod a gwybod bod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.” 39Gwnaethant gais eto i'w ddal ef, ond llithrodd trwy eu dwylo hwy.
40Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i'r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno. 41Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, “Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir.” 42A daeth llawer i gredu ynddo yn y lle hwnnw.

Currently Selected:

Ioan 10: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy