YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 1

1
Gweledigaeth y Creaduriaid a Gorsedd Duw
1Ar y pumed dydd o'r pedwerydd mis yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, a minnau ymysg y caethgludion wrth afon Chebar, agorwyd y nefoedd a chefais weledigaethau o Dduw. 2Ar y pumed dydd o'r mis ym mhumed flwyddyn caethgludiad y Brenin Jehoiachin, 3daeth gair yr ARGLWYDD at yr offeiriad Eseciel fab Busi yn Caldea, wrth afon Chebar; ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno.
4Wrth imi edrych, gwelais wynt tymhestlog yn dod o'r gogledd, a chwmwl mawr a thân yn tasgu a disgleirdeb o'i amgylch, ac o ganol y tân rywbeth tebyg i belydrau pres. 5Ac o'i ganol daeth ffurf pedwar creadur, a'u hymddangosiad fel hyn: yr oeddent ar ddull dynol, 6gyda phedwar wyneb a phedair adain i bob un ohonynt; 7yr oedd eu coesau yn syth, a gwadnau eu traed fel gwadnau llo, ac yr oeddent yn disgleirio fel efydd gloyw. 8Yr oedd ganddynt ddwylo dynol o dan bob un o'u pedair adain; yr oedd gan y pedwar wynebau ac adenydd, 9ac yr oedd eu hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd. Nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded, ond fe âi pob un yn syth yn ei flaen. 10Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr. 11Yr oedd eu hadenydd#1:11 Felly Fersiynau. Hebraeg yn ychwanegu a'u hwynebau. wedi eu lledu uwchben, gyda dwy i bob creadur yn cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, a dwy yn cuddio ei gorff. 12Yr oedd pob un yn cerdded yn syth yn ei flaen i ble bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd; nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded. 13Ac ymhlith#1:13 Felly Groeg. Hebraeg, A thebygrwydd. y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tân yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid; yr oedd y tân yn ddisglair, a mellt yn dod allan o'i ganol. 14Yr oedd y creaduriaid yn symud yn ôl ac ymlaen, yn debyg i fflachiad mellten.
15Fel yr oeddwn yn edrych ar y creaduriaid, gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb. 16Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn: yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn, 17a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyfeiriad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. 18Yr oedd ganddynt gylchau, ac fel yr edrychwn#1:18 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. arnynt yr oedd eu cylchau—y pedwar ohonynt—yn llawn o lygaid oddi amgylch. 19Pan gerddai'r creaduriaid, symudai'r olwynion oedd wrth eu hochr; a phan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion hefyd. 20Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion. 21Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.
22Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn arswydus; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod. 23O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.#1:23 Hebraeg yn ailadrodd ac yr oedd… gorff. 24Ac yr oeddwn yn clywed sŵn eu hadenydd wrth iddynt symud, ac yr oedd fel sŵn llawer o ddyfroedd, fel sŵn yr Hollalluog, fel sŵn storm, fel sŵn byddin; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. 25Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd. 26Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol. 27O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch. 28Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD.
Galw Eseciel
Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad,

Currently Selected:

Eseciel 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy