YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 78

78
Mascîl. I Asaff.
1Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2Agoraf fy ngenau mewn dihareb,
a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
3pethau a glywsom ac a wyddom,
ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
4Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,
ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod
weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,
a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
5Fe roes ddyletswydd ar Jacob,
a gosod cyfraith yn Israel,
a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,
i'w dysgu i'w plant;
6er mwyn i'r to sy'n codi wybod,
ac i'r plant sydd heb eu geni eto
ddod ac adrodd wrth eu plant;
7er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,
a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,
ond cadw ei orchmynion;
8rhag iddynt fod fel eu tadau
yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,
yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn
a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
9Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,
droi yn eu holau yn nydd brwydr,
10am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,
a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
11am iddynt anghofio ei weithredoedd
a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
12Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid
yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
13rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,
a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
14Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,
a thrwy'r nos â thân disglair.
15Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
16dygodd ffrydiau allan o graig,
a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
17Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,
ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
18a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau
trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
19Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,
“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,
ac i afonydd lifo,
ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,
ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”
21Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;
cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,
a chododd llid yn erbyn Israel,
22am nad oeddent yn credu yn Nuw,
nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.
23Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod,
ac agorodd ddrysau'r nefoedd;
24glawiodd arnynt fanna i'w fwyta,
a rhoi iddynt ŷd y nefoedd;
25yr oedd pobl yn bwyta bara angylion,
a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder.
26Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd,
ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt;
27glawiodd arnynt gig fel llwch,
ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr;
28parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll,
o gwmpas eu pebyll ym mhobman.
29Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,
oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.
30Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,
a'r bwyd yn dal yn eu genau,
31cododd dig Duw yn eu herbyn,
a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,
a darostwng rhai dewisol Israel.
32Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,
ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.
33Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,
a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;
yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.
35Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,
ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.
36Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,
ac yn dweud celwydd â'u tafodau;
37nid oedd eu calon yn glynu wrtho,
ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.
38Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,
ac ni ddistrywiodd hwy;
dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,
a chadw ei lid rhag codi.
39Cofiodd mai cnawd oeddent,
gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.
40Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,
a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!
41Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,
a blino Sanct Israel.
42Nid oeddent yn cofio ei rym
y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,
43pan roes ei arwyddion yn yr Aifft
a'i ryfeddodau ym meysydd Soan.
44Fe drodd eu hafonydd yn waed,
ac ni allent yfed o'u ffrydiau.
45Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,
a llyffaint a oedd yn eu difa.
46Rhoes eu cnwd i'r lindys,
a ffrwyth eu llafur i'r locust.
47Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,
a'u sycamorwydd â glawogydd.
48Rhoes eu gwartheg i'r haint#78:48 Felly rhai llawysgrifau. TM, i'r cenllysg.,
a'u diadell i'r plâu.
49Anfonodd ei lid mawr arnynt,
a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—
cwmni o negeswyr gwae—
50a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.
Nid arbedodd hwy rhag marwolaeth
ond rhoi eu bywyd i'r haint.
51Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,
blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.
52Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,
a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;
53arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,
ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.
54Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,
i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.
55Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;
rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,
a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.
56Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,
ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.
57Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;
yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.
58Digiasant ef â'u huchelfeydd,
a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.
59Pan glywodd Duw, fe ddigiodd,
a gwrthod Israel yn llwyr;
60gadawodd ei drigfan yn Seilo,
y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl;
61gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud,
a'i ogoniant i ddwylo gelynion;
62rhoes ei bobl i'r cleddyf,
a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.
63Ysodd tân eu gwŷr ifainc,
ac nid oedd gân briodas i'w morynion;
64syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,
ac ni allai eu gweddwon alaru.
65Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,
fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.
66Trawodd ei elynion yn eu holau,
a dwyn arnynt warth tragwyddol.
67Gwrthododd babell Joseff,
ac ni ddewisodd lwyth Effraim;
68ond dewisodd lwyth Jwda,
a Mynydd Seion y mae'n ei garu.
69Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,
a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.
70Dewisodd Ddafydd yn was iddo,
a'i gymryd o'r corlannau defaid;
71o fod yn gofalu am y mamogiaid
daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob,
ac Israel ei etifeddiaeth.
72Bugeiliodd hwy â chalon gywir,
a'u harwain â llaw ddeheuig.

Currently Selected:

Y Salmau 78: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy