YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 4

4
Iesu a'r Wraig o Samaria
1Pan ddeallodd Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod ef yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan 2(er nad Iesu ei hun, ond ei ddisgyblion, fyddai'n bedyddio), 3gadawodd Jwdea ac aeth yn ôl i Galilea. 4Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria. 5Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. 6Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd.
7Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” 8Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. 9A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri#4:9 Neu, yn cyfeillachu. â'r Samariaid.) 10Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.” 11“Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma? 12A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?” 13Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; 14ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” 15“Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.”
16Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.” 17“Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’ 18Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.” 19“Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd. 20Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.” 21“Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem. 22Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod. 23Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. 24Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” 25Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.” 26Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.”
27Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?” 28Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno, 29“Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?” 30Daethant allan o'r dref a chychwyn tuag ato ef.
31Yn y cyfamser yr oedd y disgyblion yn ei gymell, gan ddweud, “Rabbi, cymer fwyd.” 32Dywedodd ef wrthynt, “Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.” 33Ar hynny, dechreuodd y disgyblion ofyn i'w gilydd, “A oes rhywun, tybed, wedi dod â bwyd iddo?” 34Meddai Iesu wrthynt, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi. 35Oni fyddwch chwi'n dweud, ‘Pedwar mis eto, ac yna daw'r cynhaeaf’? Ond dyma fi'n dweud wrthych, codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i'w cynaeafu. 36Eisoes y mae'r medelwr yn derbyn ei dâl ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol, ac felly bydd yr heuwr a'r medelwr yn cydlawenhau. 37Yn hyn o beth y mae'r dywediad yn wir: ‘Y mae un yn hau ac un arall yn medi.’ 38Anfonais chwi i fedi cynhaeaf nad ydych wedi llafurio amdano. Eraill sydd wedi llafurio, a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur.”
39Daeth llawer o'r Samariaid o'r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig a dystiodd: “Dywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud.” 40Felly pan ddaeth y Samariaid hyn ato ef, gofynasant iddo aros gyda hwy; ac fe arhosodd yno am ddau ddiwrnod. 41A daeth llawer mwy i gredu ynddo trwy ei air ei hun. 42Meddent wrth y wraig, “Nid trwy'r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd.”
Iacháu Mab y Swyddog
Mth. 8:5–13; Lc. 7:1–10
43Ymhen y ddau ddiwrnod ymadawodd Iesu a mynd oddi yno i Galilea. 44Oherwydd Iesu ei hun a dystiodd nad oes i broffwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun. 45Pan gyrhaeddodd Galilea croesawodd y Galileaid ef, oherwydd yr oeddent hwythau wedi bod yn yr ŵyl ac wedi gweld y cwbl a wnaeth ef yn Jerwsalem yn ystod yr ŵyl.
46Daeth Iesu unwaith eto i Gana Galilea, lle'r oedd wedi troi'r dŵr yn win. Yr oedd rhyw swyddog i'r brenin â mab ganddo yn glaf yng Nghapernaum. 47Pan glywodd hwn fod Iesu wedi dod i Galilea o Jwdea, aeth ato a gofyn iddo ddod i lawr i iacháu ei fab, oherwydd ei fod ar fin marw. 48Dywedodd Iesu wrtho, “Heb ichwi weld arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch chwi byth.” 49Meddai'r swyddog wrtho, “Tyrd i lawr, syr, cyn i'm plentyn farw.” 50“Dos adref,” meddai Iesu wrtho, “y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd Iesu wrtho, a chychwynnodd ar ei daith. 51Pan oedd ar ei ffordd i lawr, daeth ei weision i'w gyfarfod a dweud bod ei fachgen yn fyw. 52Holodd hwy felly am yr amser pan fu i'r bachgen droi ar wella, ac atebasant ef, “Am un o'r gloch brynhawn ddoe y gadawodd y dwymyn ef.” 53Yna sylweddolodd y tad mai dyna'r union awr y dywedodd Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” Ac fe gredodd, ef a'i deulu i gyd. 54Hwn felly oedd yr ail arwydd i Iesu ei wneud, wedi iddo ddod o Jwdea i Galilea.

Currently Selected:

Ioan 4: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy