YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 18

18
Arestio Iesu
(Mathew 26:47-56; Marc 14:43-50; Luc 22:47-53)
1Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu’n croesi Dyffryn Cidron gyda’i ddisgyblion. Dyma nhw’n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi.
2Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a’i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith. 3Felly aeth Jwdas i’r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi’u hanfon gan y prif offeiriaid a’r Phariseaid. Roedden nhw’n cario ffaglau a lanternau ac arfau.
4Roedd Iesu’n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi’n edrych?”
5“Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!) 6Pan ddwedodd Iesu, “Fi ydy e,” dyma nhw’n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr. 7Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?”
A dyma nhw’n dweud, “Iesu o Nasareth.”
8“Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy’r un dych chi’n edrych amdano, gadewch i’r dynion yma fynd yn rhydd.” 9(Er mwyn i beth ddwedodd e’n gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o’r rhai roist ti i mi.”)
10Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw’r gwas.)
11“Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti’n meddwl mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o’r cwpan#18:11 yfed o’r cwpan: Symbol o ddioddef. chwerw mae’r Tad wedi’i roi i mi?”
Mynd â Iesu at Annas
(Mathew 26:57,58; Marc 14:53,54; Luc 22:54)
12Dyma’r fintai o filwyr a’i chapten a swyddogion yr arweinwyr Iddewig yn arestio Iesu a’i rwymo. 13Aethon nhw ag e at Annas gyntaf, sef tad-yng-nghyfraith Caiaffas oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno. 14(Caiaffas oedd yr un oedd wedi awgrymu i’r arweinwyr Iddewig y byddai’n well i un person farw dros y bobl.)#Ioan 11:49,50
Pedr yn gwadu y tro cyntaf
(Mathew 26:69,70; Marc 14:66-68; Luc 22:55-57)
15Dyma Simon Pedr ac un arall o’r disgyblion yn mynd ar ôl Iesu. Roedd yr archoffeiriad yn nabod y disgybl arall hwnnw yn dda, felly cafodd fynd i mewn gyda Iesu i iard tŷ’r archoffeiriad. 16Ond roedd rhaid i Pedr aros wrth y drws y tu allan. Yna dyma’r disgybl oedd yr archoffeiriad yn ei nabod, yn mynd yn ôl ac yn perswadio’r ferch oedd yn cadw’r drws i adael Pedr i mewn. 17Ond meddai hi wrth Pedr, “Onid wyt ti’n un o ddisgyblion y dyn yna?” Ond dyma Pedr yn ateb, “Nac ydw.”
18Roedd hi’n oer, ac roedd y gweithwyr a’r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi’i gynnau i gadw’n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw’n gynnes.
Yr archoffeiriad yn holi Iesu
(Mathew 26:59-66; Marc 14:55-64; Luc 22:66-71)
19Yn y cyfamser, roedd Iesu’n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion.
20“Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Rôn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau, 21felly pam wyt ti’n fy holi i? Hola’r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw’n gwybod beth ddwedais i.”
22Pan atebodd Iesu felly dyma un o’r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti’n ateb yr archoffeiriad!” meddai.
23“Os dwedais i rywbeth o’i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?” 24Yna, yn dal wedi’i rwymo, anfonodd Annas e at Caiaffas yr archoffeiriad.
Pedr yn gwadu yr ail a’r drydedd waith
(Mathew 26:71-75; Marc 14:69-72; Luc 22:58-62)
25Tra oedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw’n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o’i ddisgyblion e?”
Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai.
26Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i’r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Wnes i ddim dy weld di gydag e yn yr ardd?” 27Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu.
Iesu o flaen Peilat
(Mathew 27:1,2,11-31; Marc 15:1-20; Luc 23:1-5,13-25)
28Aeth yr arweinwyr Iddewig â Iesu oddi wrth Caiaffas i’r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi’n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i’r pencadlys, am eu bod nhw eisiau osgoi torri’r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg. 29Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy’r cyhuddiadau yn erbyn y dyn yma?”
30“Fydden ni ddim wedi’i drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.
31“Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i’w farnu.”
“Ond does gynnon ni mo’r awdurdod i’w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw. 32(Digwyddodd hyn fel bod yr hyn ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.)
33Aeth Peilat yn ôl i mewn i’r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o’i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”
34“Wyt ti’n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?”
35“Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a’u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi’i wneud?”
36Atebodd Iesu, “Dydy nheyrnas i ddim yn dod o’r byd yma. Petai hi, byddai fy ngweision wedi ymladd yn galed i’m cadw i rhag cael fy arestio gan yr awdurdodau Iddewig. Mae fy nheyrnas i yn dod o rywle arall.”
37“Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat.
Atebodd Iesu, “Ti sy’n defnyddio’r gair ‘brenin’. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i’r byd ydy i dystio i beth sy’n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”
38“Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat.
Dedfrydu Iesu i Farwolaeth
(Mathew 27:15-31; Marc 15:6-20; Luc 23:13-25)
Yna aeth allan at yr arweinwyr Iddewig eto a dweud, “Dw i ddim yn ei gael yn euog o unrhyw drosedd. 39Mae’n arferiad i mi ryddhau un carcharor i chi adeg y Pasg. Ydych chi eisiau i mi ryddhau hwn, ‘Brenin yr Iddewon’?”
40“Na!” medden nhw, gan weiddi eto, “Dim hwn. Barabbas dŷn ni eisiau!” (Terfysgwr oedd Barabbas.)

Currently Selected:

Ioan 18: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy