YouVersion Logo
Search Icon

Habacuc 1

1
1Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:
Habacuc yn cwyno am anghyfiawnder
2ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw
cyn i ti fy ateb i?
Dw i’n gweiddi, ‘Trais!’
ond ti ddim yn achub.
3Pam wyt ti’n caniatáu y fath anghyfiawnder?
Pam wyt ti’n gadael i’r fath ddrygioni fynd yn ei flaen?
Does dim i’w weld ond dinistr a thrais!
Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!
4Mae’r gyfraith wedi colli ei grym,
a does dim cyfiawnder byth.
Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,
a chyfiawnder wedi’i dwistio’n gam.”
Yr ARGLWYDD yn ateb Habacuc
5“Edrychwch ar y cenhedloedd,
a cewch sioc go iawn.
Mae rhywbeth ar fin digwydd
fyddwch chi ddim yn ei gredu,
petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
6Dw i’n codi’r Babiloniaid –
y genedl greulon a gwyllt
sy’n ysgubo ar draws y byd
yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.
7Maen nhw’n codi braw ac arswyd ar bawb.
Maen nhw’n falch ac yn gwneud fel y mynnant.
8Mae eu ceffylau yn gyflymach na’r llewpard,
ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.
Maen nhw’n carlamu am bellter enfawr,
ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.
9Trais ydy eu hunig fwriad.
Maen nhw’n hollol benderfynol,
ac yn casglu carcharorion rif y tywod.
10Maen nhw’n gwneud sbort o frenhinoedd,
ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.
Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;
maen nhw’n codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.
11Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt!
Dynion sy’n addoli eu grym milwrol;
a byddan nhw’n cael eu galw i gyfri.”
Habacuc yn cwyno eto
12“Ond ARGLWYDD,
ti ydy’r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau!
Ti ydy’r Duw Sanctaidd,
fyddi di byth yn marw!
ARGLWYDD, ti’n eu defnyddio nhw i farnu!
Ein Craig, rwyt ti wedi’u penodi nhw i gosbi!
13Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni!
Sut alli di esgusodi annhegwch?
Sut wyt ti’n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus?
Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg
yn llyncu pobl sy’n well na nhw?
14Rwyt ti’n gwneud pobl fel pysgod,
neu greaduriaid y môr heb neb i’w harwain.
15Mae’r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn;
mae’n eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd.
Wrth eu casglu gyda’i rwyd bysgota
mae’n dathlu’n llawen ar ôl gwneud mor dda.
16Wedyn mae’n cyflwyno aberthau
ac yn llosgi arogldarth i’w rwydau.
Nhw sy’n rhoi bywyd bras iddo,
a digonedd i’w fwyta.
17Ydy e’n mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi,
a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?

Currently Selected:

Habacuc 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy