YouVersion Logo
Search Icon

Esra 1

1
Cyrus yn gadael i’r caethion fynd yn ôl
(2 Cronicl 36:22-23)
1Llai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia,#1:1 Llai na blwyddyn … frenin Persia 538 cc mae’n debyg. Roedd Cyrus wedi concro Babilon yn 539 cc. dyma’r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia.#1:1 Jeremeia Proffwydodd Jeremeia y byddai pobl Israel yn cael eu rhyddhau o Babilon ar ôl saith deg mlynedd (gw. Jeremeia 25:11; 29:10). Dyma fe’n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy’r deyrnas i gyd. Dyma’r datganiad:
2“Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3Os ydych chi’n perthyn i’w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i’r ARGLWYDD, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! 4Dylai pawb arall, sy’n aros lle rydych chi, helpu’r rhai sy’n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”
Paratoi i ddod yn ôl o Babilon
5Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a’r offeiriaid a’r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi’u hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. 6Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol.
7Yna dyma’r Brenin Cyrus yn dod â’r holl lestri oedd Nebwchadnesar#1:7 Nebwchadnesar Nebwchadnesar II, oedd yn teyrnasu yn Babilon o 605 i 562 cc Yn 586 cc dinistriodd Jerwsalem a mynd â llawer o’r bobl yn gaeth i Babilon. wedi’u cymryd o deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem i’w gosod yn nheml ei dduw ei hun. 8Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a’i gael i gyfri’r cwbl a’u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda, 9-10Dyma’r rhestr o eitemau:
– 30 dysgl aur
– 1,000 o ddysglau arian
– 29 eitem arall o arian
– 30 powlen aur
– 410 o bowlenni arian gwahanol
– 1,000 o lestri eraill
11Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon.

Currently Selected:

Esra 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy