YouVersion Logo
Search Icon

Effesiaid 1

1
1Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu.
At bobl Dduw yn Effesus, sy’n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo:
2Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
Bendithion Ysbrydol perthyn i’r Meseia
3Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy’n y byd nefol arnon ni sy’n perthyn i’r Meseia. 4Hyd yn oed cyn i’r byd gael ei greu, cawson ni’n dewis ganddo i fod mewn perthynas â’r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad 5trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i’w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! 6Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi’i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae’n ei garu. 7Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni’n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! 8Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. 9Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy’r Meseia. Trefnu 10i ddod â phopeth sy’n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.
11Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â’r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu’r cwbl ymlaen llaw. Mae’n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. 12Mae am i ni’r Iddewon, y rhai cyntaf i roi’n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. 13Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â’r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy’n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy’n dangos eich bod yn perthyn iddo, a’r sêl hwnnw ydy’r Ysbryd Glân oedd wedi’i addo i chi. 14Yr Ysbryd ydy’r blaendal sy’n gwarantu’r ffaith bod lle wedi’i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i’w feddiannu’n llawn. Rheswm arall i’w foli am ei fod mor wych!
Diolchgarwch a Gweddi
15Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i’r Arglwydd Iesu a’ch cariad at Gristnogion eraill, 16dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i’n cofio amdanoch chi bob tro dw i’n gweddïo. 17Dw i’n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi’r Ysbryd i chi i’ch goleuo a’ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i’w nabod yn well. 18Dw i’n gweddïo y daw’r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy’r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy’r lle bendigedig sydd ganddo i’w bobl. 19Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol 20wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.#gw. Salm 110:1 21Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod! 22Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. #cyfeiriad at Salm 8:6 (sy’n cyfeirio yn ôl at Genesis 1:26-28) Mae wedi’i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. 23Yr eglwys ydy ei gorff e – mae’n llawn ohono fe sy’n llenwi’r bydysawd cyfan â’i bresenoldeb.

Currently Selected:

Effesiaid 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy