YouVersion Logo
Search Icon

Pregethwr 1

1
Cyflwyniad: mae popeth yn ddiystyr
1Geiriau yr Athro, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
2Mae’n ddiystyr! – meddai’r Athro – Dydy e’n gwneud dim sens!
Mae’r cwbl yn hollol absẃrd!
3Beth ydy’r pwynt gwneud unrhyw beth?
Beth sydd i’w ennill o weithio’n galed yn y byd yma?
4Mae un genhedlaeth yn mynd ac un arall yn dod,
ond dydy’r byd ddim yn newid o gwbl.
5Mae’r haul yn codi ac yn machlud,
yna rhuthro’n ôl i’r un lle, i godi eto.
6Mae’r gwynt yn chwythu i’r de,
ac yna’n troi i’r gogledd.
Mae’n troi ac yn troi, cyn dod yn ôl
i’r un lle yn y diwedd.
7Mae’r nentydd i gyd yn llifo i’r môr,
ac eto dydy’r môr byth yn llawn;
maen nhw’n mynd yn ôl
i lifo o’r un lle eto.
8Mae’r cwbl yn un cylch diddiwedd!
Dydy hi ddim posib dweud popeth.
Dydy’r llygad byth wedi gweld digon,
na’r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.
9Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol –
Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ag o’r blaen;
does dim byd newydd dan yr haul!
10Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth,
“Edrychwch, dyma i chi beth newydd!”
Ond mae wedi digwydd o’r blaen, ymhell yn ôl,
o flaen ein hamser ni.
11Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd,
a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawb
aeth o’u blaenau nhw chwaith.
Yr Athro yn edrych am atebion
12Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem. 13Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy’n digwydd yn y byd. Mae’n waith caled, wedi’i roi gan Dduw i’r ddynoliaeth. 14Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i’r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli’r gwynt.
15Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi’i blygu,
na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna!
16Meddyliais, “Dw i’n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o mlaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.” 17Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i’r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli’r gwynt.
18Po fwya’r doethineb, mwya’r dolur;
mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.

Currently Selected:

Pregethwr 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy