Salmau 1
SC1875

Salmau 1

1
SALM I.
M. S.
1Gwyn fyd y gŵr ni rodia ʼnol
Y drwg annuwiol gynghor;
Yn ffordd troseddwyr ef nid ä
Nac i eisteddfaʼr gwatwor.
2Ond ei ewyllys rydd, aʼi reddf,
Syʼn uniawn ddeddf yr Arglwydd;
Ac arni ʼr erys i barhau
Ei fyfyrdodau dedwydd.
3Efe, fel pren planedig, fydd
Ar lan afonydd bywiol;
Ni wywaʼi ddail, aʼi ffrwyth o hyd
A ddwg mewn pryd amserol.
4Ond yr annuwiol mawr ei rus,
Fydd fel mân us, neu sothach;
A chwelir gan yr awel wynt
Na welir moʼnynt mwyach.
5ʼR annuwiol yn y farn a ddaw
A gais gan fraw ymguddio;
Ac o gynʼlleidfaʼr cyfiawn rhaid
Iʼr pechaduriaid gilio.
6Canʼs Duw a edwyn ffordd ei saint,
Mawr fydd eu braint dragwyddol,
Ond ffordd yr annuwiolion a
Ddyfetha ef yn hollol.
Nodiadau.
Nid oes enw awdwr wrth y salm hon; ond bernir yn ddilys mai Dafydd ydoedd. Golygir y gyntaf hon oʼr salmau fel math o arweiniad i mewn iʼr llyfr, yn yr hon y cyferbynir y ddau wrthddrych sydd i gael eu cadw mewn golwg, i draethu yn aml am danynt drwy y llyfr.
Egyr Llyfr y Salmau yma, fel y bregeth ar y mynydd, mewn cyhoeddiad o wynfydedigrwydd: yna disgrifir nodweddion arbenig etifedd y gwynfydedigrwydd hwnw — 1af, Yn nacaol: yn gyferbyniol iʼr annuwiol. Nid yw yn sefyll yn ei gynghor, yn rhodio yn ei ffordd, nac yn eistedd yn ei eisteddfa ef: h. y., y mae efe yn ymgadw o gymdeithas, o ffordd, ac oddi wrth ymarferion yr annuwiolion, y pechaduriaid, aʼr gwatwarwyr. Defnyddir y tri gair i ddangos fod graddau a chynnydd yn ngyrfa pechadur yn ei ddrygioni — yn dechreu yn nghynghor yr annuwiol; yna, yn rhodio yn ffordd pechaduriaid; ac yn ddiweddaf, yn eistedd yn eisteddfaʼr gwatwarwyr, fel un wedi ymsefydlu ac ymgartrefu yn ei bechod.
2il, Yn gadarnhaol: y mae y dyn a gyhoeddir yma yn wynfydedig, âʼi ewyllys aʼi fyfyrdod yn nghyfraith yr Arglwydd yn wastadol; ac fel ffrwyth a chanlyniad o hyny, y mae yn ei fywyd aʼi fuchedd yn gyffelyb i bren ffrwythau wedi ei blanu mewn tir ffrwythlawn — yn hardd, yn ddefnyddiol, bendithiol, a sefydlog: tra oʼr tu arall y mae yr annuwiol, yn ei fywyd aʼi fuchedd, yn wâg, disylwedd, ac anwadal, yn cael ei ddwyn ymaith aʼi droelli gan bob awel o brofedigaeth a ddigwyddo anadlu arno — “fel mân us, yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.”
Yn olaf, edrychir ar ddiwedd y ddau — eu cyflwr yn marn y dydd mawr: y naill yn gymmeradwy a chadwedig, aʼr llall yn anghymmeradwy a gwrthodedig.
Yna gwêl pawb y rhagor rhwng y cyfiawn aʼr drygionus, rhwng yr hwn a rodia yn nghynghor yr annuwiol, a ffordd pechaduriaid, aʼr hwn a rodia yn nghyfraith yr Arglwydd. Gosodir oʼn blaen yn y salm fer hon ffordd einioes a ffordd angeu — y fendith aʼr felldith! Y mae hi megys yn ddrych y gall pob un weled ei wynebpryd moesol ynddo, a gweled i ba un oʼr ddau fath ar nodwedd a chyflwr a ddisgrifir y mae efe yn perthyn.

Tŵr Dafydd gan y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cyhoeddwyd gan Thomas Gee, Dinbych 1875. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.


Learn More About Salmau Cân - Tŵr Dafydd 1875 (Gwilym Hiraethog)