YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 1:6

Salmau 1:6 SC1875

Can’s Duw a edwyn ffordd ei saint, Mawr fydd eu braint dragwyddol, Ond ffordd yr annuwiolion a Ddyfetha ef yn hollol. NODIADAU. Nid oes enw awdwr wrth y salm hon; ond bernir yn ddilys mai Dafydd ydoedd. Golygir y gyntaf hon o’r salmau fel math o arweiniad i mewn i’r llyfr, yn yr hon y cyferbynir y ddau wrthddrych sydd i gael eu cadw mewn golwg, i draethu yn aml am danynt drwy y llyfr. Egyr Llyfr y Salmau yma, fel y bregeth ar y mynydd, mewn cyhoeddiad o wynfydedigrwydd: yna disgrifir nodweddion arbenig etifedd y gwynfydedigrwydd hwnw — 1af, Yn nacaol: yn gyferbyniol i’r annuwiol. Nid yw yn sefyll yn ei gynghor, yn rhodio yn ei ffordd, nac yn eistedd yn ei eisteddfa ef: h. y., y mae efe yn ymgadw o gymdeithas, o ffordd, ac oddi wrth ymarferion yr annuwiolion, y pechaduriaid, a’r gwatwarwyr. Defnyddir y tri gair i ddangos fod graddau a chynnydd yn ngyrfa pechadur yn ei ddrygioni — yn dechreu yn nghynghor yr annuwiol; yna, yn rhodio yn ffordd pechaduriaid; ac yn ddiweddaf, yn eistedd yn eisteddfa’r gwatwarwyr, fel un wedi ymsefydlu ac ymgartrefu yn ei bechod. 2il, Yn gadarnhaol: y mae y dyn a gyhoeddir yma yn wynfydedig, â’i ewyllys a’i fyfyrdod yn nghyfraith yr Arglwydd yn wastadol; ac fel ffrwyth a chanlyniad o hyny, y mae yn ei fywyd a’i fuchedd yn gyffelyb i bren ffrwythau wedi ei blanu mewn tir ffrwythlawn — yn hardd, yn ddefnyddiol, bendithiol, a sefydlog: tra o’r tu arall y mae yr annuwiol, yn ei fywyd a’i fuchedd, yn wâg, disylwedd, ac anwadal, yn cael ei ddwyn ymaith a’i droelli gan bob awel o brofedigaeth a ddigwyddo anadlu arno — “fel mân us, yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.” Yn olaf, edrychir ar ddiwedd y ddau — eu cyflwr yn marn y dydd mawr: y naill yn gymmeradwy a chadwedig, a’r llall yn anghymmeradwy a gwrthodedig. Yna gwêl pawb y rhagor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a rodia yn nghynghor yr annuwiol, a ffordd pechaduriaid, a’r hwn a rodia yn nghyfraith yr Arglwydd. Gosodir o’n blaen yn y salm fer hon ffordd einioes a ffordd angeu — y fendith a’r felldith! Y mae hi megys yn ddrych y gall pob un weled ei wynebpryd moesol ynddo, a gweled i ba un o’r ddau fath ar nodwedd a chyflwr a ddisgrifir y mae efe yn perthyn.

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy