YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 9

9
1Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. 2A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? 3Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. 4Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. 5Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf. 6Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall; 7Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8Y cymdogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? 9Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. 10Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. 12Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.
13Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall. 14A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef. 15Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith. 17Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe. 18Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. 19A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? 20Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: 21Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. 22Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog. 23Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. 24Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. 25Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled. 26Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch: paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef? 28Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni. 29Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe. 30Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i. 31Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando. 32Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. 33Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan. 35Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. 38Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.
39A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.

Currently Selected:

Ioan 9: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy