YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 21

21
1Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 2Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 6Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 7Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 8Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 9A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 11Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 12Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
15Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. 16Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 17Efe a ddywedodd wrtho’r drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Pedr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid. 18Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Pan oeddit ieuanc, ti a’th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hen, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni fynnit. 19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath angau y gogoneddai efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20A Phedr a drodd, ac a welodd y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn, (yr hwn hefyd a bwysasai ar ei ddwyfron ef ar swper, ac a ddywedasai, Pwy, Arglwydd, yw’r hwn a’th fradycha di?) 21Pan welodd Pedr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? 22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? canlyn di fyfi. 23Am hynny yr aeth y gair yma allan ymhlith y brodyr, na fyddai’r disgybl hwnnw farw: ac ni ddywedasai yr Iesu wrtho na fyddai efe farw; ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? 24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifennodd y pethau hyn; ac ni a wyddom fod ei dystiolaeth ef yn wir. 25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifennid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cynhwysai’r byd y llyfrau a ysgrifennid. Amen.

Currently Selected:

Ioan 21: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy