YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb Solomon 1

1
Ceisio Duw ac Ymwrthod â Drygioni
1Carwch gyfiawnder, chwi lywodraethwyr y ddaear;
meddyliwch am yr Arglwydd ag ewyllys da,
a cheisiwch ef o lwyrfryd calon.
2Fe'i ceir gan y rhai na fynnant ei herio;
y mae'n ymddangos i'r rhai na fynnant anghredu ynddo.
3Oherwydd y mae cynlluniau gwyrgam yn ein gwahanu oddi wrth Dduw,
ac o'i roi ar brawf y mae'r Hollalluog yn dinoethi'r ynfyd.
4Ni chaiff doethineb ddod i mewn i'r enaid dichellgar
nac ymgartrefu mewn corff sy'n wystl i bechod.
5Bydd ysbryd sanctaidd addysg yn ffoi oddi wrth dwyll,
ac yn cilio ymhell oddi wrth gynlluniau anneallus,
ac yn cywilyddio pan ddaw anghyfiawnder i'r golwg.
6Ysbryd dyngarol yw doethineb,
ond ni all ddyfarnu'n ddieuog un sy'n cablu â'i wefusau,
am fod Duw'n dyst o'i deimladau dyfnaf,
yn archwiliwr cywir o'i feddyliau
ac yn wrandawr ar ei eiriau.
7Gan fod ysbryd yr Arglwydd wedi llenwi'r holl fyd,
a'r ysbryd sy'n dal y cyfanfyd ynghyd yn adnabod pob llais,
8am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,
ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.
9Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,
ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,
i'w gondemnio am ei droseddau.
10Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth;
nid oes na siw na miw a gollir.
11Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol,
a chadwch eich tafod rhag athrod;
oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad,
a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.
12Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn,
na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.
13Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth,
ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.
14Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth,
a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd;
nid oes ynddynt wenwyn marwol,
na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.
15Y mae cyfiawnder yn anfarwol,
16ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith;
gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt.
Gwnaethant gyfamod ag ef,
oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.

Currently Selected:

Doethineb Solomon 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy