YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 1

1
Jeremeia
1Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin. 2Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad. 3Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.
Galw Jeremeia
4Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
5“Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm;
a chyn dy eni, fe'th gysegrais;
rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.”
6Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” 7Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’;
oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt,
a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti.
8Paid ag ofni o'u hachos,
oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.
9Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau.
10Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd
a thros y teyrnasoedd,
i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr,
i ddifetha ac i ddymchwelyd,
i adeiladu ac i blannu.”
Dwy Weledigaeth
11Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon#1:11 Hebraeg, saqed..” 12Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio#1:12 Hebraeg, soqed. fy ngair i'w gyflawni.” 13A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.” 14A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir. 15Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda; 16a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.
17“Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen. 18A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad. 19Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

Jeremeia 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy