YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 20

20
Atgyfodiad Iesu
Mth. 28:1–10; Mc. 16:1–8; Lc. 24:1–12
1Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto'n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd. 2Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a'r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu'n ei garu. Ac meddai wrthynt, “Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom lle y maent wedi ei roi i orwedd.” 3Yna cychwynnodd Pedr a'r disgybl arall allan, a mynd at y bedd. 4Yr oedd y ddau'n cydredeg, ond rhedodd y disgybl arall ymlaen yn gynt na Pedr, a chyrraedd y bedd yn gyntaf. 5Plygodd i edrych, a gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, ond nid aeth i mewn. 6Yna daeth Simon Pedr ar ei ôl, a mynd i mewn i'r bedd. Gwelodd y llieiniau yn gorwedd yno, 7a hefyd y cadach oedd wedi bod am ei ben ef; nid oedd hwn yn gorwedd gyda'r llieiniau, ond ar wahân, wedi ei blygu ynghyd. 8Yna aeth y disgybl arall, y cyntaf i ddod at y bedd, yntau i mewn. Gwelodd, ac fe gredodd. 9Oherwydd nid oeddent eto wedi deall yr hyn a ddywed yr Ysgrythur, fod yn rhaid iddo atgyfodi oddi wrth y meirw. 10Yna aeth y disgyblion yn ôl adref.
Iesu'n Ymddangos i Fair Magdalen
Mc. 16:9–11
11Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo. Wrth iddi wylo felly, plygodd i edrych i mewn i'r bedd, 12a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle'r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a'r llall wrth y traed. 13Ac meddai'r rhain wrthi, “Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?” Atebodd hwy, “Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd.” 14Wedi iddi ddweud hyn, troes yn ei hôl, a gwelodd Iesu'n sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd. 15“Wraig,” meddai Iesu wrthi, “pam yr wyt ti'n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?” Gan feddwl mai'r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, “Os mai ti, syr, a'i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe'i cymeraf fi ef i'm gofal.” 16Meddai Iesu wrthi, “Mair.” Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, “Rabbwni” (hynny yw, Athro). 17Meddai Iesu wrthi, “Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, ‘Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a'ch Tad chwi, fy Nuw i a'ch Duw chwi.’ ” 18Ac aeth Mair Magdalen i gyhoeddi'r newydd i'r disgyblion. “Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd,” meddai, ac eglurodd ei fod wedi dweud y geiriau hyn wrthi.
Iesu'n Ymddangos i'r Disgyblion
Mth. 28:16–20; Mc. 16:14–18; Lc. 24:36–49
19Gyda'r nos ar y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, yr oedd y drysau wedi eu cloi lle'r oedd y disgyblion, oherwydd eu bod yn ofni'r Iddewon. A dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol, ac yn dweud wrthynt, “Tangnefedd i chwi!” 20Wedi dweud hyn, dangosodd ei ddwylo a'i ystlys iddynt. Pan welsant yr Arglwydd, llawenychodd y disgyblion. 21Meddai Iesu wrthynt eilwaith, “Tangnefedd i chwi! Fel y mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” 22Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. 23Os maddeuwch bechodau rhywun, y maent wedi eu maddau; os peidiwch â'u maddau, y maent heb eu maddau.”
Anghrediniaeth Thomas
24Nid oedd Thomas, a elwir Didymus, un o'r Deuddeg, gyda hwy pan ddaeth Iesu atynt. 25Ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho, “Yr ydym wedi gweld yr Arglwydd.” Ond meddai ef wrthynt, “Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.” 26Ac ymhen wythnos, yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. A dyma Iesu'n dod, er bod y drysau wedi eu cloi, ac yn sefyll yn y canol a dweud, “Tangnefedd i chwi!” 27Yna meddai wrth Thomas, “Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ystlys. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun.” 28Atebodd Thomas ef, “Fy Arglwydd a'm Duw!” 29Dywedodd Iesu wrtho, “Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu?#20:29 Neu, Am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu. Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.”
Amcan y Llyfr
30Yr oedd llawer o arwyddion eraill, yn wir, a wnaeth Iesu yng ngŵydd ei ddisgyblion, nad ydynt wedi eu cofnodi yn y llyfr hwn. 31Ond y mae'r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu#20:31 Yn ôl darlleniad arall, i chwi barhau i gredu. mai Iesu yw'r Meseia, Mab Duw, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bywyd yn ei enw ef.

Currently Selected:

Ioan 20: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy