YouVersion Logo
Search Icon

2 Esdras 1

1
Gwrthod Israel
1Ail lyfr y proffwyd Esra fab Saraias, fab Asarias, fab Helcias, fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitob, 2fab Achias, fab Phinees, fab Heli, fab Amarias, fab Asias, fab Marimoth, fab Arna, fab Osias, fab Borith, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar, 3fab Aaron, o lwyth Lefi. Yr oedd ef mewn caethiwed yn nhiriogaeth y Mediaid, yn ystod teyrnasiad Artaxerxes brenin y Persiaid.
4Daeth gair yr Arglwydd ataf fi fel hyn: 5“Dos at fy mhobl a chyhoedda wrthynt eu troseddau; dywed wrth eu plant am y camweddau y maent wedi eu cyflawni yn fy erbyn i, er mwyn iddynt hwythau gyhoeddi wrth blant eu plant 6fod pechodau eu rhieni wedi cynyddu fwyfwy ynddynt hwy, am iddynt fy anghofio i ac aberthu i dduwiau dieithr. 7Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion. 8Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth! 9Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt? 10Yr wyf wedi dymchwelyd llawer o frenhinoedd er eu mwyn; trewais i lawr Pharo a'i weision, ynghyd â'i holl fyddin. 11Difethais yr holl genhedloedd o'u blaen, ac yn y dwyrain gwasgerais bobl y ddwy dalaith, Tyrus a Sidon; lleddais bob un a'u gwrthwynebai.
12“Llefara di wrthynt fel hyn. Dyma eiriau'r Arglwydd: 13Fel y gŵyr pawb, myfi a'ch dug chwi trwy'r môr, a phalmantu ffyrdd eang ichwi lle na bu ffordd o'r blaen; rhoddais Moses yn arweinydd ichwi ac Aaron yn offeiriad; 14darperais golofn o dân i roi goleuni ichwi, a gwneuthum ryfeddodau mawr yn eich plith. Ond chwithau, yr ydych wedi fy anghofio i, medd yr Arglwydd.
15“Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Cawsoch soflieir yn arwydd ichwi, a rhoddais wersyll yn amddiffyn ichwi; ond grwgnach a wnaethoch yno, 16nid gorfoleddu yn fy enw i am i'ch gelynion gael eu difetha; yn wir yr ydych yn parhau i rwgnach hyd y dydd heddiw. 17Ble bellach y mae'r breintiau a ddarperais ar eich cyfer? Pan oedd newyn a syched arnoch yn yr anialwch, oni waeddasoch arnaf 18fel hyn: ‘Pam yr wyt ti wedi ein dwyn ni i'r anialwch hwn i'n lladd? Buasai'n well i ni fod yn gaethweision i'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.’ 19Yr oedd yn ofidus gennyf am eich cwynion, a rhoddais ichwi fanna yn ymborth; bwytasoch fara angylion. Pan oedd syched arnoch, oni holltais i'r graig, a dyna ddigonedd o ddŵr yn llifo allan? 20Ac oherwydd y gwres rhoddais ddail y coed yn gysgod ichwi. 21Rhennais diroedd ffrwythlon rhyngoch, gan fwrw allan y Canaaneaid, y Pheresiaid a'r Philistiaid o'ch blaen. Beth arall a allaf ei wneud er eich mwyn?” medd yr Arglwydd.
22“Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Pan oeddech yn yr anialwch, yn sychedu wrth yr afon chwerw ac yn fy nghablu, 23nid anfon tân arnoch am eich cableddau a wneuthum, ond bwrw pren i'r dŵr a melysu'r afon. 24Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau. 25Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych. 26Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth. 27Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.
28“Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Onid wyf fi wedi ymhŵedd arnoch, fel tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei babanod, 29ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau? 30Felly, fe'ch cesglais chwi ynghyd fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Ond beth a wnaf â chwi yn awr? Bwriaf chwi allan o'm gŵydd. 31Pan ddygwch offrymau i mi, trof fy wyneb oddi wrthych; oherwydd yr wyf wedi gwrthod eich dyddiau gŵyl, eich newydd-loerau, a'ch enwaediadau ar y cnawd. 32Anfonais atoch fy ngweision y proffwydi, ond yr hyn a wnaethoch chwi oedd eu cymryd hwy a'u lladd, a darnio eu cyrff; mynnaf gael cyfrif am eu gwaed hwy,” medd yr Arglwydd.
33“Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Y mae eich tŷ chwi wedi ei adael yn anghyfannedd; fe'ch lluchiaf chwi ymaith, fel gwynt yn lluchio gwellt. 34Ni chaiff eich plant genhedlu, am iddynt, fel chwithau, ddiystyru fy ngorchymyn a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg. 35Trosglwyddaf eich tai chwi i bobl sydd i ddod, pobl a gred er na chlywsant fi, pobl a geidw fy ngorchmynion er na roddais arwyddion iddynt. 36Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt. 37Yr wyf yn galw yn dyst ddiolchgarwch y bobl sydd i ddod#1:37 Neu, Yr wyf yn tystio y bydd fy ngras i gyda'r bobl sydd i ddod.; bydd eu plant bychain yn neidio gan lawenydd, ac er na chânt fy ngweld â'u llygaid naturiol, eto trwy'r ysbryd fe gredant fy ngeiriau.
38“Ac yn awr, dad, edrych â gorfoledd, a gwêl y bobl sydd i ddod o'r dwyrain. 39Rhoddaf yn arweinwyr iddynt Abraham, Isaac a Jacob, Hosea ac Amos, Micha a Joel, Obadeia a Jona, 40Nahum a Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia a Malachi, a alwyd hefyd yn Negesydd yr Arglwydd.”

Currently Selected:

2 Esdras 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy