YouVersion Logo
Search Icon

Salmau Salmau Cân Newydd

Salmau Cân Newydd
Gwynn ap Gwilym
RHAGAIR
Ymateb yw’r llyfr hwn i’r gŵyn mai adrodd, yn hytrach na llafarganu, y salmau a’r cantiglau y mae’r mwyafrif mawr o gynulleidfaoedd Cymraeg yr eglwysi bellach. Yn ôl rhai, y rheswm am hynny yw na chyhoeddwyd eto fersiwn pwyntiedig o’r salmau a’r cantiglau yn Y Beibl Cymraeg Newydd, ac mai chwithig i gynulleidfa yw gwrando ar ddarlleniadau mewn Cymraeg cyfoes ond gorfod mynd yn ôl at yr hen gyfieithiad i ganu’r salm. Yn ôl y ddadl hon, heb fersiwn pwyntiedig nid oes dewis ond adrodd y salmau. Myn eraill fod cynulleidfaoedd bellach yn ystyried llafarganu yn y dull traddodiadol yn feichus. Mewn llawer man rhoddwyd y gorau ers blynyddoedd i’r arfer o siantio hyd yn oed salmau Beibl William Morgan, ac mae’n amheus a fyddai cynulleidfaoedd yn barod i ddysgu siantio salmau’r Beibl Cymraeg Newydd. Yn ôl y rhai sy’n dadlau fel hyn, yr unig ffordd o gael cynulleidfaoedd i ganu’r salmau unwaith eto yw darparu fersiwn mydryddol cyfoes, fel y gwnaed, gyda chryn lwyddiant, yn Saesneg. A dyna yw bwriad y llyfr hwn.
Yr oedd dwy ffordd bosibl o fynd o’i chwmpas hi. Yn gyntaf, llunio caneuon a oedd wedi eu seilio’n fras ar themâu’r salmau, fel y gwnaed, er enghraifft, yn llawer o’r deunydd a geir yn Psalms for Today and Songs from the Psalms, Hodder & Stoughton, 1990. Yn ail, ceisio mydryddu’r salmau, gan gadw mor agos ag a oedd yn bosibl, o ystyried cyfyngiadau mydr ac odl, at destun y Beibl Cymraeg Newydd. Yr ail ffordd a ddewiswyd yma.
Y cwestiwn nesaf oedd cwestiwn y mesur. Fel y gwyddys, fe ddefnyddiodd Edmwnd Prys, y cyhoeddwyd ei Salmau Cân seiliedig ar Feibl William Morgan yn 1621, y mesur y daethpwyd i’w adnabod wedyn fel mesur salm ar gyfer pob un ond pedair o’r salmau. Ar gyfer y casgliad hwn, penderfynwyd amrywio llawer mwy ar y mesurau, fel na chyfyngid cynulleidfaoedd i ryw lond dwrn o donau a oedd yn ffitio un mesur yn unig. Buwyd yn chwarae â’r syniad o gomisiynu tonau newydd, ond gwrthodwyd y syniad hwnnw am y tybid y byddai cynulleidfaoedd yn amharod i’w dysgu, a lluniwyd y Salmau Cân Newydd, felly, i’w canu ar donau cyfarwydd. Wrth ddewis mesurau, yr egwyddor gyffredinol oedd chwilio am donau bywiog ar gyfer salmau llawen neu fuddugoliaethus, a thonau arafach a thawelach ar gyfer salmau mwy myfyrgar neu drist. Awgrymir tôn arbennig uwchben pob salm.
Mater arall a fu dan ystyriaeth oedd gofynion Llithiadur Yr Eglwys yng Nghymru, lle y penodir salmau i’w defnyddio’n ddyddiol dros gyfnod o dair blynedd, a’u rhannu, yn achos salmau hirion, yn adrannau hwylus. Er enghraifft, ar Sul y Pentecost ym Mlwyddyn C y salm yn y prif wasanaeth yw Salm 104:24-34 a 35b, yn yr ail wasanaeth Salm 36:5-10 a Salm 150, ac yn y trydydd gwasanaeth Salm 33:1-12. Buwyd yn ystyried y posibilrwydd o fydryddu’r adrannau a osodir yn y Llithiadur, ddydd ar ôl dydd dros dair blynedd y cylch, ond gwrthodwyd hynny am y byddai’n llafur beichus iawn. Yr hyn a geir yma, felly, yw mydryddiad o bob un salm yn ei chyfanrwydd. Nodwyd ar ymyl y ddalen rif yr adnodau cyfatebol yn y Beibl Cymraeg Newydd, fel y gall y sawl a fynno ddilyn Llithiadur Yr Eglwys yng Nghymru deilwra fel y bo’r galw.
Er mai dilyn testun y Beibl Cymraeg Newydd oedd y bwriad, fe gadwyd llygad yn gyson hefyd ar destun y Biblia Hebraica Stuttgartensia, ac, ar dro, ceisiwyd cyfleu rhywfaint yn ychwaneg o naws yr Hebraeg gwreiddiol. Un enghraifft yw Salm 42:4 a 5, ac adnod gyfatebol yn Salm 43:5. Yn 42:4 digwydd yr enw Hebraeg hāmôn, a gyfieithir yn Y Beibl Cymraeg Newydd yn ‘torf’. Yn 42:5 a 43:5 digwydd y ferf teh emi, sy’n dod o’r un gwreiddyn â’r enw hāmôn, ac a gyfieithir yn y Beibl Cymraeg Newydd yn ‘mor gythryblus [wyt]’. Yn y fersiwn mydryddol hwn defnyddiwyd y gair ‘tyrfa’ yn lle ‘torf’ yn 42:4, a’r ferf ‘na thyrfa’ yn lle ‘mor gythryblus [wyt]’ yn 42:5 a 43:5, gan amcanu, trwy hynny, at gyfleu’r chwarae ar eiriau sy’n ymhlyg yn y testun Hebraeg. Fodd bynnag, bu ceisio dilyn cynllun acrostig Salm 119, a’i dwy adran ar hugain yn cyfateb i ddwy lythyren ar hugain yr wyddor Hebraeg, a phob adnod ym mhob adran unigol yn dechrau â’r un llythyren, yn ormod o sialens! Llwyddwyd, serch hynny, i gynnwys ym mhob cwpled, fel y gwneir ym mhob adnod o’r gwreiddiol, yn yr Hebraeg ac yng nghyfieithiad y Beibl Cymraeg Newydd, ryw air neu’i gilydd yn dynodi ‘cyfraith’ Duw.
Cymerodd y gwaith dair blynedd i’w gwblhau. Rwy’n ddiolchgar i Archesgob Cymru, y Parchedicaf Ddr Barry Morgan, am ganiatáu imi yn ystod y cyfnod hwnnw dri mis i ffwrdd o’m dyletswyddau fel Swyddog Iaith Yr Eglwys yng Nghymru i ganolbwyntio ar y prosiect. Bu hynny’n gymorth mawr. Mawr yw fy nyled hefyd i Bethan Mair, golygydd Gwasg Gomer, am weld gwerth yn y llyfr, ac i argraffwyr y Wasg am y gwaith ardderchog a wnaethant arno. Rwy’n ddyledus iawn yn ogystal i Ymddiriedolaeth Isla Johnston ac Ymddiriedolaeth Ann a Margaret Eilian Owen. Heb eu cefnogaeth hael hwy, mae’n amheus a fyddai’r llyfr wedi gweld golau dydd.
Y gobaith yw y bydd y Salmau Cân Newydd hyn yn ddealladwy ac yn ganadwy, ac yr ystyrir eu bod hefyd yn glynu’n rhesymol agos at destun y Beibl Cymraeg Newydd. Wrth y tri maen prawf hyn y mae mesur eu llwyddiant, a’u gwerth i gynulleidfaoedd Cymraeg yr eglwysi.
Gwynn ap Gwilym
Pentecost 2007

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy